Luke 9:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno clybot o Herod y Tetrarch son am yr oll pethae a wnethesit canthaw: a’ phetruso, can ys dywedyt gan ’r ei, ad gyvodi o Ioan o veirw:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywodd Herod y Tetrarch yr holl bethau a ddigwyddent, a phetrusai o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Clywodd Herod y tetrarch am yr holl bethau a oedd yn digwydd, ac yr oedd mewn penbleth am fod rhywrai’n dywedyd gyfodi o Ioan o feirw, a rhai mai Elïas a ymddangosodd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Herod y tetrarch a glybu'r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd y llywodraethwr Herod am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd y Tywysog Herod am yr holl bethau oedd yn digwydd. Yr oedd mewn cyfyng-gyngor am fod rhai yn dweud fod Ioan wedi ei godi oddi wrth y meirw,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Herod y Tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid, ac efe gythryblwyd yn ddirfawr, o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;