Malachi 1:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“O na fyddai un ohonoch chi'n cloi giatiau'r deml, fel ei bod hi'n amhosib i roi tân ar fy allor — y cwbl i ddim pwrpas!” “Dw i ddim yn hapus hefo chi o gwbl,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “a dw i ddim yn mynd i dderbyn eich offrwm chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac ni dderbyniaf offrwm gennych.