Malachi 1:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i'm henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O un pen o'r byd i'r llall, bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd! Bydd arogldarth ac offrwm pur yn cael ei gyflwyno i mi ym mhobman. Bydd fy enw'n cael ei barchu drwy'r gwledydd i gyd!” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd," medd ARGLWYDD y Lluoedd.