Malachi 1:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd ARGLWYDD y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a'r cloff, a'r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o'ch llaw chwi? medd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Pam boddran?’ meddech chi, ac wfftio'r cwbl;” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “ac yna dod ag anifeiliaid wedi eu dwyn, rhai cloff, a rhai sâl, a cyflwyno'r rheiny'n offrwm i mi! Ydw i wir i fod i'w derbyn nhw gynnoch chi?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth ei arogli, fe ddywedwch, 'Mor atgas yw!'" medd ARGLWYDD y Lluoedd. "Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?" medd yr ARGLWYDD.