Malachi 1:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i'r ARGLWYDD; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a'm henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Melltith ar y twyllwr sy'n addo hwrdd perffaith o'i braidd, ac yna'n rhoi un gwael yn aberth i mi! Dw i yn Frenin mawr” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “ac mae parch ata i drwy'r gwledydd i gyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd."