Malachi 1:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a'r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr ARGLWYDD yn dragywydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Edom yn dweud, “Mae'n trefi wedi eu chwalu, ond gallwn ailadeiladu'r adfeilion.” Ond dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Gallan nhw adeiladu, ond bydda i yn bwrw i lawr! Byddan nhw'n cael eu galw yn wlad ddrwg, ac yn bobl mae'r ARGLWYDD wedi digio hefo nhw am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os dywed Edom, "Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto," fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: "Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth."