Malachi 1:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Trwy offrymu bwyd sy'n halogi fy allor i.” “Sut ydyn ni wedi ei halogi?” meddech chi wedyn. “Trwy feddwl, ‘Sdim ots mai bwrdd yr ARGLWYDD ydy e.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor." A dywedwch, "Sut y bu inni ei halogi?" "Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,