Malachi 1:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a'r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i'th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan dych chi'n cyflwyno anifail dall i'w aberthu, ydy hynny ddim yn ddrwg? Pan dych chi'n cyflwyno anifail cloff neu sâl, ydy hynny ddim yn ddrwg? Rhowch e i lywodraethwr y wlad! Fyddai e'n cael ei blesio? Fyddai e'n garedig atoch chi? —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.