Malachi 1:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron DUW, fel y trugarhao wrthym: o'ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nawr, ceisiwch ofyn am fendith Duw! Fydd e'n garedig atoch chi? Os mai offrymau fel yma dych chi'n eu rhoi iddo, fydd e'n garedig atoch chi? Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?" medd ARGLWYDD y Lluoedd.