Malachi 2:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr ARGLWYDD trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o'ch llaw chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma beth arall dych chi'n ei wneud: Dych chi'n gorchuddio allor yr ARGLWYDD gyda'ch dagrau, wrth wylo a chwyno am nad ydy e'n cymryd sylw o'ch offrwm chi ddim mwy, ac yn gwrthod derbyn eich rhodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.