Malachi 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr ARGLWYDD a fu dyst rhyngot ti a rhwng gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig dy gyfamod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond pam?” meddech chi. Am fod yr ARGLWYDD yn dyst i'r addewidion wnest ti i dy wraig pan briodaist. Ti wedi bod yn anffyddlon iddi er mai hi ydy dy gymar di, a'r un wnest ti ymrwymo iddi drwy briodas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych yn gofyn, "Pam?" Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.