Malachi 2:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Onid un a wnaeth efe? a'r ysbryd yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oni wnaeth Duw chi'n un? Gwnaeth chi'n un cnawd ac ysbryd. A beth sydd gan Dduw eisiau o'r undod? Onid plant duwiol? Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon i'r wraig briododd pan yn ifanc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.