Malachi 2:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr ARGLWYDD, DUW Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â'i wisg, medd ARGLWYDD y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n casáu ysgariad,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel— “a'r rhai sy'n euog o drais,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. Felly gwyliwch eich hunain! Ddylai neb fod yn anffyddlon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Oherwydd yr wyf yn casu ysgariad," medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, "a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn," medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.