Malachi 2:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Blinasoch yr ARGLWYDD â'ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu, Pa le y mae DUW y farn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi blino'r ARGLWYDD â'ch holl siarad. “Sut ydyn ni wedi ei flino fe?” meddech chi, Trwy ddweud, “Mae pawb sy'n gwneud drwg yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD — mae wrth ei fodd gyda nhw!” neu trwy ofyn, “Ble mae'r Duw cyfiawn yma?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr ydych wedi blino'r ARGLWYDD 'ch geiriau. Gofynnwch, "Sut yr ydym wedi ei flino?" Trwy ddweud, "Y mae pawb sy'n gwneud drygioni yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae'n fodlon arnynt"; neu trwy ofyn, "Ple mae Duw cyfiawnder?"