Malachi 2:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd i ddysgu'r gwir, a doedd e ddim i dwyllo; Roedd i fyw yn gwbl ufudd i mi, ac i droi llawer o bobl oddi wrth ddrwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwir gyfarwyddyd oedd yn ei enau, ac ni chaed twyll ar ei wefusau; rhodiai gyda mi mewn heddwch ac uniondeb, a throdd lawer oddi wrth ddrygioni.