Malachi 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny minnau hefyd a'ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn derbyn wynebau yn y gyfraith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dw i'n mynd i'ch gwneud chi'n rai sy'n cael eu diystyru a'u bychanu gan bawb, am nad ydych chi wedi bod yn ffyddlon i mi, a dydy'ch dysgeidiaeth chi ddim wedi bendithio pobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr wyf finnau wedi eich gwneud yn ddirmygus ac yn waradwyddus gan yr holl bobl, yn gymaint ag ichwi beidio chadw fy ffyrdd, ac ichwi ddangos ffafr yn eich cyfarwyddyd."