Malachi 3:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o'm blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr ARGLWYDD, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i'w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd, a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i. Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio yn dod i'w deml. Ydy, mae angel yr ymrwymiad, dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele fi'n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o'm blaen; ac yn sydyn fe ddaw'r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i'w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod," medd ARGLWYDD y Lluoedd.