Malachi 3:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant DDUW, a waredwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! — maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo; maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr, yr ydym ni'n ystyried mai'r trahaus sy'n hapus, ac mai'r rhai sy'n gwneud drwg sy'n llwyddo, ac yn dianc hefyd er iddynt herio Duw.'"