Malachi 3:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a'r ARGLWYDD a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i'r rhai oedd yn ofni yr ARGLWYDD, ac i'r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, fel yr oedd y rhai a ofnai Dduw yn siarad 'i gilydd, sylwodd Duw a gwrando, ac ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o'r rhai a oedd yn ofni'r ARGLWYDD ac yn meddwl am ei enw.