Malachi 3:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A byddant eiddof fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Nhw fydd fy mhobl i,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus— “fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod. Bydda i'n gofalu amdanyn nhw fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Eiddof fi fyddant," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "fy eiddo arbennig ar y dydd pan weithredaf; ac arbedaf hwy fel y mae dyn yn arbed ei fab, a'i gwasanaetha.