Malachi 3:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a'r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu; dw i'n barod i dystio yn erbyn pawb sydd ddim yn fy mharchu — y rhai sy'n dewino ac yn godinebu, sy'n dweud celwydd ar lw, sy'n gormesu gweithwyr (trwy atal eu cyflog), yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad, ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yna nesf atoch i farn, yn dyst parod yn erbyn dewiniaid a godinebwyr; yn erbyn y rhai sy'n tyngu'n gelwyddog; yn erbyn y rhai sy'n gorthrymu'r gwas cyflog, y weddw a'r amddifad; yn erbyn y rhai sy'n gwthio'r estron o'r neilltu, ac nad ydynt yn fy ofni i," medd ARGLWYDD y Lluoedd.