Malachi 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a'r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant sofl: a'r dydd sydd yn dyfod a'u llysg hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, fel na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy, mae'r diwrnod yn dod; mae fel ffwrnais yn llosgi. Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg yn cael eu llosgi fel bonion gwellt, ar y diwrnod sy'n dod,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus. “Byddan nhw'n llosgi'n ulw nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "heb adael iddynt na gwreiddyn na changen.