Mark 1:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a vu yno yn y diffeith vvch dauugain die rnot, a’ Satan yn ei dēptio: ac ydd oedd ef y gyd a’r bwystviledd, a’r Angelion vyddent y’w weini ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bu Efe yn yr anialwch ddeugain niwrnod, yn Ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwyllt-filod; ac yr angylion a weinient Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bu yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwylltfilod; a’r angylion a weinyddai arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda'r gwylltfilod: a'r angylion a weiniasant iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhosodd yno am bedwar deg diwrnod, yn cael ei demtio gan Satan. Roedd anifeiliaid gwylltion o'i gwmpas, ond roedd yno angylion yn gofalu amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bu yn yr anialwch am ddeugain diwrnod yn cael ei demtio gan Satan. Yr oedd yng nghanol yr anifeiliaid gwylltion, a'r angylion oedd yn gweini arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a fu yn y Diffaethwch ddeugain niwrnod yn cael ei demtio gan Satan; ac yr oedd efe gyda y gwylltfilod; a'r Angelion a weiniasent iddo.