Mark 1:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val y rhodiei ef wrth vor Galilaea, ef a welawdd Simon, ac Andreas ei vrawt, yn bwrw rhwyt ir mor, (can ys pyscotwyr oeddynt.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth rodio wrth fôr Galilea, gwelodd Shimon ac Andreas brawd Shimon, yn bwrw rhwyd yn y môr, canys yr oeddynt bysgodwyr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth rodio ger môr Galilea, gwelodd Simon ac Andreas brawd Simon yn rhwydo yn y môr; canys pysgodwyr oeddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu'n cerdded wrth Lyn Galilea, gwelodd ddau frawd, Simon ac Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth gerdded ar lan Mr Galilea gwelodd Iesu Simon a'i frawd Andreas yn bwrw rhwyd i'r mr; pysgotwyr oeddent.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wrth fyned heibio ar làn Môr Galilea, efe a welodd Simon, ac Andreas brawd Simon, yn bwrw rhwyd yn y môr: canys pysgodwyr oeddynt.