Mark 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddaw vyned ychydic ym pellach o dd yno, ef a welawdd Iaco vap Zebedeus, ac Ioan ei vrawt, val ydd oeddynt yn y llong yn cyweirio ei rhwytae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned ychydig ymlaen, gwelodd Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, a hwythau hefyd yn y cwch yn cyweirio’r rhwydau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi mynd rhagddo ychydig, gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio'r rhwydau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig yn nes ymlaen gwelodd Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw wrthi'n trwsio eu rhwydi yn eu cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo fynd ymlaen ychydig gwelodd Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd; yr oeddent wrthi'n cyweirio'r rhwydau yn y cwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig, efe a welodd Iago, Mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y cwch yn cyweirio y rhwydau.