Mark 1:2 — Compare Translations

6 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
mal ydd yscrifenir yn y Prophwyti, Nycha vi yn d anvon vy‐cenat rac dy wynep, yr hwn a paratoa dy ffordd oth vlaen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Fel yr ysgrifenwyd yn Eshaiah y prophwyd, “Wele, danfon yr wyf Fy nghennad o flaen Dy wyneb, Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel y mae’n ysgrifenedig yn Esaias y proffwyd, Wele, yr wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Edrych — dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” —
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: "Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen i baratoi dy ffordd.