Mark 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn yman y galwodd ef wy: ac wy a adawsant ei tad Zebedeus yn y llong y gyd a’ei gyfloc-ddynion, ac aethant ffwrdd ar y ol ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn y galwodd hwynt; a chan adael eu tad Zebedëus yn y cwch ynghyda’r cyflog-ddynion, yr aethant ymaith ar Ei ol Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna galwodd hwynt; a gadawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r gweision cyflog, ac aethant ymaith ar ei ol ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda'r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw'n gadael eu tad Sebedeus gyda'r gweision yn y cwch a dechrau dilyn Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd hwythau ar unwaith, a chan adael eu tad Sebedeus yn y cwch gyda'r gweision, aethant ymaith ar ei l ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedëus yn y cwch gyda'r cyflog‐weision, ac a aethant ar ei ol ef.