Mark 1:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aethont y mevvn y Capernaum, ac yn ebrwydd ar y dydd Sabbath ydd aeth ef y mewn ir Synagog ac y dyscawdd ef vvynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aethant i mewn i Caphernahwm; ac yn uniawn, ar y Sabbath,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyrchant i Gapernaum; ac yna’r Sabath, wedi iddo fynd i’r synagog, dechreuodd ddysgu;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i'r synagog, efe a athrawiaethodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant i Gapernaum, ac yna, ar y Saboth, aeth ef i mewn i'r synagog a dechrau dysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn myned i mewn i Capernäum: ac yn ebrwydd ar y Sabbath efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a ddysgodd.