Mark 1:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac aruthro a wnaethant wrth ei ddysc eidaeth ef: can ys ef y dyscawdd wy mal vn ac awturtot cantaw, ac ny d mal y Gwyr‐llen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi myned i mewn i’r sunagog, y dysgodd, a bu aruthr ganddynt o herwydd Ei ddysgad Ef; canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a synnent at ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith — roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y bobl yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd yn eu dysgu fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a darawyd a syndod wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr Ysgrifenyddion.