Mark 1:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ei ysdwrdiodd, gan dywedyt, Ystaw, a’ dyre d allan o hanaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A ddaethost Ti i’n difetha ni? Adwaen i Ti pwy ydwyt, Sanct Duw. A dwrdiodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, Taw, a thyred allan o hono.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A cheryddodd yr Iesu ef, “Taw, a dos allan ohono.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Bydd ddistaw!” meddai Iesu'n ddig. “Tyrd allan ohono!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ceryddodd Iesu ef 'r geiriau: "Taw, a dos allan ohono."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan o hono.