Mark 1:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy oll a dd echrynesont, y ny d ymofynnent yn ei plith, gan ddywedyt, Pa beth yw hyn? pa ryvv ddysc newydd yw hon? can ys gorchymyn ef ir ysprytion aflan trwy awturtot, ac vvy uvyddant yddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhyfeddodd pawb, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Pa beth yw hwn? Dysgad newydd! Gydag awdurdod hyd yn oed i’r ysprydion aflan y gorchymyn, ac ufuddhant Iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac arswydodd pawb, nes ymholi ohonynt, gan ddywedyd, “Beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd ag awdurdod! Hyd yn oed yr ysbrydion aflan a orchymyn ef, ac ufuddhânt iddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb wedi cael sioc, ac yn gofyn i'w gilydd, “Beth sy'n mynd ymlaen? Mae'r hyn mae'n ei ddysgu yn newydd — mae ganddo'r fath awdurdod! Mae hyd yn oed ysbrydion drwg yn gorfod ufuddhau iddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syfrdanwyd pawb, nes troi a holi ei gilydd, "Beth yw hyn? Dyma ddysgeidiaeth newydd ac iddi awdurdod! Y mae hwn yn gorchymyn hyd yn oed yr ysbrydion aflan, a hwythau'n ufuddhau iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a synasant oll, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, Pa beth yw hyn? Dysgeidiaeth newydd! gyd ag awdurdod y mae efe yn gorchymyn hyd y nod yr ysprydion aflan, a hwy a ufuddhant iddo.