Mark 1:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r haint‐gwres, ac yn lleigys y dywedesont wrthaw am denei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chwegr Shimon oedd yn gorwedd yn glaf o’r cryd; ac yn uniawn y dywedasant Wrtho am dani hi; ac,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chwegr Simon oedd yn gorwedd mewn twymyn; ac yna dywedant wrtho amdani.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno roedd mam-yng-nghyfraith Simon yn ei gwely yn dioddef o wres uchel. Dyma nhw'n dweud wrth Iesu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn gorwedd yn wael dan dwymyn. Dywedasant wrtho amdani yn ddi-oed;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o dwymyn; ac yn ebrwydd y dywedesant wrtho am dani hi.