Mark 1:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddaeth ac ei cymerth hi erbyn hei llaw, ac ei dyrchafodd i vyny dd, a’r haint‐gwres h ei gada vv odd eb ’ohir, a hi aeth y weini yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
wedi myned atti, cododd Efe hi, gan ymaflyd yn ei llaw, a gadawodd y cryd hi, a gwasanaethodd hi arnynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth yntau ati, a chododd hi dan afael yn ei llaw; a gadawodd y dwymyn hi, a gweinyddai hithau arnynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac aeth e ati a gafael yn ei llaw, a'i chodi ar ei thraed. Diflannodd y tymheredd oedd ganddi, a dyma hi'n codi a gwneud pryd o fwyd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
aeth yntau ati a gafael yn ei llaw a'i chodi. Gadawodd y dwymyn hi, a dechreuodd hithau weini arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddaeth ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi; a'r dwymyn a'i gadawodd, a hi a wasanaethodd arnynt hwy.