Mark 1:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yhwyrhay hi, a’ myned haul i lawr, y ducesont ataw bavvp oll a’r oedd ent yn gleifion, a’r ei oedd yn gythreulic ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwyr wedi dyfod, pan fachludodd yr haul, dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl a’r rhai cythreulig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, dygent ato’r holl rai cleifion, a’r rhai â chythreuliaid ynddynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i'r haul fachlud y noson honno dechreuodd pobl ddod at Iesu gyda rhai oedd yn sâl neu wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda'r nos, a'r haul wedi machlud, yr oeddent yn dwyn ato yr holl gleifion a'r rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddi hwyrhâu, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato ef yr holl gleifion, a'r rhai a feddianid gan gythreuliaid.