Mark 1:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a iachaodd lawer a’r oeddent yn gleifion o amrafael heintiae: ac a vwriodd allan lawer o gythreulieit: ac ny ’s gadawdd i’r cythraelieit ddywedyt ydd adwaenent ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac iachaodd Efe lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau; a chythreuliaid lawer a fwriodd Efe allan; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe iachaodd lawer o gleifion dan amrywiol heintiau, a chythreuliaid lawer a fwriodd allan; ac ni adai i’r cythreuliaid lefaru, gan yr adwaenent ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n iacháu nifer fawr o bobl oedd yn dioddef o wahanol afiechydon. Bwriodd gythreuliaid allan o lawer o bobl hefyd. Roedd y cythreuliaid yn gwybod yn iawn pwy oedd Iesu, ond roedd yn gwrthod gadael iddyn nhw ddweud gair.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Iachaodd ef lawer oedd yn glaf dan amrywiol afiechydon, a bwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawai i'r cythreuliaid ddweud gair, oherwydd eu bod yn ei adnabod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a iachaodd lawer oeddynt gleifion o amrywiol glefydau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni chaniataodd i'r cythreuliaid lefaru, oblegyd yr oeddynt yn ei adwaen ef.