Mark 1:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrthynt, Awn ir trefi nesaf, val y precethwyf yno hefyt: can ys er mvvyn hyn y daethym allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Efe wrthynt, Awn i le arall i’r trefi nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywed yntau wrthynt, “Awn draw i’r trefydd nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd; canys i hynny y deuthum allan.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y deuthum allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Gadewch i ni fynd yn ein blaenau i'r pentrefi nesa, i mi gael cyhoeddi'r newyddion da yno hefyd. Dyna pam dw i yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Awn ymlaen i'r trefi nesaf, imi gael pregethu yno hefyd; oherwydd i hynny y deuthum allan."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Awn i leoedd eraill, i'r trefi cymydogaethol, fel y pregethwyf yno hefyd: canys i hyny y daethum allan.