Mark 1:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a precethawð yn y Synagogae hwy trwy’r oll Galilaea, ac a vwriodd allan gythraulieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys i hyny y daethum allan, Ac aeth, gan bregethu i’w sunagogau hwynt, trwy holl Galilea, a’r cythreuliaid yn cael eu bwrw allan Ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe aeth, gan bregethu yn eu synagogau hwynt yn holl Galilea, a chan fwrw allan y cythreuliaid.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly teithiodd o gwmpas Galilea, yn pregethu yn y synagogau a bwrw cythreuliaid allan o bobl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe aeth drwy holl Galilea gan bregethu yn eu synagogau hwy a bwrw allan gythreuliaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth i'w Synagogau hwynt, trwy holl Galilea, gan bregethu a bwrw allan gythreuliaid.