Mark 1:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddaeth ataw ddyn clavr llyt gan weddiaw arnaw, a’ myned ar liniae iddaw, a’ dywedyt wrthaw, A’s ewyllysy, gelly vy‐ glanhau.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth Atto ddyn gwahanglwyfus, gan ymbil ag Ef, a chan benlinio Iddo, a chan ddywedyd Wrtho, Os ewyllysi, gelli fy nglanhau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daw ato un gwahanglwyfus yn erfyn arno, ac yn penlinio, gad ddywedyd wrtho, “Os mynni, gelli fy nglanhau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ddyn oedd yn dioddef o'r gwahanglwyf yn dod ato ac yn pledio ar ei liniau o'i flaen, “Gelli di fy ngwneud i'n iach os wyt ti eisiau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth dyn gwahanglwyfus ato ac erfyn arno ar ei liniau a dweud, "Os mynni, gelli fy nglanhau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae yn dyfod ato un gwahan‐glwyfus, gan ymbil ag ef, [a syrthio ar ei liniau iddo], a dywedyd wrtho, Os myni, ti a elli fy nghlanhâu.