Mark 1:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot wrthaw, Gwyl na ddywetych ddim i nep, and tyn ymaith, a’ dangos dy hun ir Offeiriat, ac offrwm dros dy ’lanhat y pethae a’ orchymynawdd Moysen, er testiolaeth yddwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedodd wrtho, Gwel na ddywedi ddim wrth neb; eithr, dos ymaith; dangos dy hun i’r offeiriad; ac offrymma am dy lanhad y pethau a ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac eb ef wrtho, “Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwna'n siŵr dy fod ti ddim yn dweud wrth unrhyw un beth sydd wedi digwydd. Dos i ddangos dy hun i'r offeiriad a chyflwyno beth ddwedodd Moses y dylet ei gyflwyno, yn dystiolaeth i'r bobl dy fod ti wedi cael dy iacháu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud wrtho, "Gwylia na ddywedi ddim wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yr hyn a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwel na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith: dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma am dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.