Mark 1:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yntef wedy iddo vyned ymaith, a ddechreawdd venegi llawer o bethae, a’ chyhoeddy y chwedyl: val na allai ’r Iesu mwy vyned yn amlwc i’r dinas, eithyr ydd oedd ef allan yn lleoeð diffaith: a’ daethāt attaw o bop man.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe wedi myned allan a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thanu’r gair ar led, fel na allai Efe mwy fyned yn amlwg i ddinas; eithr allan, mewn lleoedd anial yr oedd Efe; a daethant Atto o bob parth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Aeth yntau allan, a dechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r hanes, fel na allai ef mwy fynd yn amlwg i ddinas, eithr allan mewn lleoedd anghyfannedd yr oedd; a deuent ato o bobman.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu'r gair ar led, fel na allai'r Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r dyn yn dechrau mynd o gwmpas yn dweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd. O ganlyniad, doedd Iesu ddim yn gallu mynd a dod yn agored mewn unrhyw dref. Roedd yn aros allan mewn lleoedd unig. Ond roedd pobl yn dal i ddod ato o bob cyfeiriad!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond aeth yntau allan a dechrau rhoi'r hanes i gyd ar goedd a'i daenu ar led, fel na allai Iesu mwyach fynd i mewn yn agored i unrhyw dref. Yr oedd yn aros y tu allan, mewn lleoedd unig, ac eto yr oedd pobl yn dod ato o bob cyfeiriad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr efe a aeth allan, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thaenu y gair ar led, fel na allai efe mwyach fyned yn amlwg i ddinas; eithr yr oedd efe y tu allan mewn lleoedd annghyfanedd; ac yr oeddynt yn dyfod ato efe o bob parth.