Mark 1:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a precethei gan ddywedyt, Ys daw ar vy ol i, vn cadarnach no mi vy, yr hwn ni d wyf deilwng i grymy a’ datod carrae ei escidiae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phregethodd, gan ddywedyd, Dyfod y mae’r Hwn sydd gryfach na myfi, ar fy ol, i’r Hwn nid wyf deilwng, gan ymgrymu, i ddattod carrai Ei esgidiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chyhoeddai gan ddywedyd, “Daw fy nghryfach ar fy ol, nad wyf deilwng i blygu a datod carrai ei esgidiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i'w datod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i — fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'i genadwri: "Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'l i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ol i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf deilwng i ymostwng a'i dattod.