Mark 10:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a gyvodes o yno ac aeth i ffiniae Iudaia rhyd y tu hwnt i Iorddonen, a’r vintai a gyrchodd ataw drachefyn, ac val ydd oedd gynefin, ef y dyscai wy drachefyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac oddi yno, wedi cyfodi o Hono, yr aeth i gyffiniau Iwdea, ac i lan arall yr Iorddonen; a thrachefn y cyd-gyrchodd torfeydd Atto; ac fel yr oedd yn arferu, dysgodd hwynt drachefn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac oddiyno cododd, a daw i ororau Iwdea a thu hwnt i’r Iorddonen; a chyd-gyrcha drachefn dyrfaoedd ato, ac, fel yr arferai, drachefn y dysgai hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt drachefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gadawodd Iesu'r fan honno, a mynd i Jwdea a'r ardal yr ochr draw i'r Iorddonen. Unwaith eto daeth tyrfa o bobl ato, ac fel arfer buodd wrthi'n eu dysgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn l ei arfer dechreuodd eu dysgu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gyfododd oddi yno, ac y mae yn dyfod i gyffiniau Judea, a thu hwnt i'r Iorddonen; a thrachefn tyrfaoedd a gyd‐gyrchant ato; ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt.