Mark 10:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ey gwelawdd yr Iesu sori a oruc ef, a’ dywedyt wrthynt, Gedwch i’r ei bychain ddyuot ata vi, ac na’w goherddwch: can ys o’r cyfryw y mae teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth weled hyn, yr Iesu a dristawyd, a dywedodd wrthynt, Gadewch i’r plant bychain ddyfod Attaf; na rwystrwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan welodd yr Iesu fe ddigiodd, a dywedodd wrthynt, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf fi; peidiwch a’u rhwystro; canys rhai fel hwy bïau deyrnas Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n ddig pan welodd nhw'n gwneud hynny. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai wrthyn nhw, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch 'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pan welodd yr Iesu, bu ddigllawn ganddo, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gadêwch y plant bychain ddyfod ataf fi: na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw yw Teyrnas Dduw.