Mark 10:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddo vyned allan i’r ffordd, y daeth vn yn rhedec, ac a benlinioð iddo, ac a vynawð yddaw, Athro da, beth a wnaf i, y gael meðiantu bywyt tragyvythawl?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned allan o hono ar Ei ffordd, gan redeg Atto o ryw un, a phenlinio Iddo, gofynodd Iddo, Athraw da, pa beth da a wnaf fel y bo bywyd tragywyddol i’w etifeddu genyf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddo gychwyn i ffwrdd, rhedodd un ato, a phenliniodd iddo, a gofynnai iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu ar fin gadael, dyma ddyn yn rhedeg ato a syrthio ar ei liniau o'i flaen. “Athro da,” meddai, “Beth sydd rhaid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, "Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, ac a syrthiodd ar ei liniau o'i flaen, ac a ofynodd iddo, O Athraw da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?