Mark 10:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ti ’wyddost y gorchmynion, Na wna odineb. Na ladd nep. Na ladrata. Na ffalstestolaytha. Na wna eniwed i neb. Anrydodda dy dad a’ th vam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes neb yn dda, oddieithr un, sef Duw. Y gorchymynion a wyddost, Na ladd; Na odineba; Na ladratta; Na au-dystiolaetha; Na cham-golleda: Anrhydedda dy dad a’th fam.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y gorchmynion a wyddost: Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na cham-atal, Anrhydedda dy dad a’th fam.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid llofruddio, paid godinebu, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, paid twyllo, gofala am dy dad a dy fam.’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddost y gorchmynion: 'Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ti a wyddost y gorchymynion, — Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na cham‐dystiolaetha, Na cham‐golleda, Anrhydedda dy dâd a'th fam.