Mark 10:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a e drychawdd arnaw, ac ei carawdd, ac a ddyuot wrthaw, Mae vn peth yn ol iti, Does a’ gwerth cymeint oll ac y sy yti, a’ dy rho i’r tlodion, a’ thi gai dresawr yn y nef, a debre, dilyn vi, a chyvot dy groc ar d’yscvvydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, gan edrych arno, a’i hoffodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd genyt ti ar ol; dos, a chymmaint ag sydd genyt, gwerth ef, a dyro i’r tlodion; a bydd i ti drysor yn y nef; a thyred, a chanlyn Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r Iesu a edrychodd arno ac a’i carodd; a dywedodd wrtho, “Un peth sydd ar ol ynot: dos, gwerth y cwbl sy gennyt, a dyro i’r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyred, dilyn fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu wedi hoffi'r dyn yn fawr. Edrychodd arno, a dweud, “Mae yna un peth arall ar ôl. Dos, a gwertha dy eiddo i gyd a rho'r arian i bobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, "Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, gan edrych arno yn ddifrifol, a'i carodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti; dos, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i dlodion, a thi a gai drysor yn y Nef: a thyred, canlyn fi.