Mark 10:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phruddhau gan yr ymadrodd hyn a wnaeth ef, a’ thynny y maith yn athrist: can vod iddo lawer o veddiantae:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, wedi pruddhau wrth yr ymadrodd, a aeth ymaith yn athrist; canys yr oedd efe a chanddo feddiannau lawer.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cymylodd ei wedd ef wrth y gair, ac aeth ymaith yn ofidus, canys yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd wyneb y dyn yn dweud y cwbl. Cerddodd i ffwrdd yn siomedig, am ei fod yn ddyn cyfoethog iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i wedd a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd ganddo feddianau lawer.