Mark 10:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei ðiscipulon a dd echrynesont wrth ei eiriae. A’r Iesu atepawdd dragefyn, ac a ddyuot wrthwynt, Ha veibion, mor anhawð yw ir ei a ymddiriedāt yn‐goludoeð, vyn’d y mewn teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r disgyblion a synnasant wrth Ei eiriau. A’r Iesu, gan atteb drachefn, a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned o’r rhai sydd yn ymddiried yn eu golud i mewn i deyrnas Dduw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r disgyblion a arswydai wrth ei eiriau. Ond yr Iesu drachefn a atebodd ac a ddywed wrthynt, “Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i'r rhai sydd â'u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion wedi eu syfrdanu gan yr hyn roedd yn ei ddweud. Ond dwedodd Iesu eto, “Wyddoch chi beth? Mae pobl yn ei chael hi mor anodd i adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, "Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y Dysgyblion a lanwyd â syndod wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywed wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned i mewn i Deyrnas Dduw.