Mark 10:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Haws ach yw i gamel vyn’d drwy grau ’r nodwydd, nag i ’oludawc vyn’d y mewn teyrnas Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Haws yw i gamel fynd trwy grau’r nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau'r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae yn hawddach i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw.