Mark 10:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy the dd echrynesont yn‐vwy‐o-lawer, gan ddywedyt writhyn ei hunain, A’ phwy a ddichon vod yn gatwedic?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu aruthr dros ben ganddynt, gan ddywedyd Wrtho, A phwy a all fod yn gadwedig?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dirfawr y synnent, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “A phwy all gael ei gadw?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y disgyblion yn rhyfeddu fwy fyth, ac yn gofyn i'w gilydd, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu all gael ei achub?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a darawyd â syndod dirfawr, gan ddywedyd wrtho ef, A phwy a all fod yn gadwedig?